Cyngor Abertawe yn Dewis Bromcom i ddarparu System Gwybodaeth Reoli (MIS) yn y Cwmwl yn ogystal â Datrysiadau Cyllid
Llundain, 4 Mawrth, 2025
Mae Bromcom yn falch o gyhoeddi fod Cyngor Abertawe wedi eu dewis nhw i ddarparu System Gwybodaeth Reoli (MIS) yn y cwmwl, yn ogystal â datrysiadau cyllid ar gyfer ysgolion ar draws y ddinas. Mae Abertawe yn creu hanes drwy fod yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio gwasanaethau Cyllid a Gwybodaeth Reoli Bromcom yn eu holl ysgolion, gan arwain y ffordd at brofiad addysgol trawsnewidiol.
Mae gan Abertawe weledigaeth glir at y dyfodol, ac maent yn anelu at roi systemau Bromcom ar waith erbyn 31 Mawrth 2026, gan ddechrau gwneud hynny gam wrth gam mor fuan â phosibl. Mae hyn yn rhan o’u hymrwymiad i foderneiddio systemau gweithredu a chyfathrebu ysgolion, gan gyfnewid systemau hen ffasiwn am systemau newydd sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, a hynny er lles staff, myfyrwyr a rhieni.
Mae dulliau arloesol Bromcom yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn sawl ffordd i leihau’r baich gweinyddol sydd arnynt: mae sgwrsio yn creu toreth o ddata dadansoddeg gan staff a myfyrwyr na welwyd ei debyg o’r blaen, ond mae Deallusrwydd Artiffisial hefyd yn cael ei ddefnyddio yn y prif lif gwaith i greu llythyrau ac adroddiadau heb ymyrryd yn ormodol ar y defnyddiwr.
Proses Ddethol Drylwyr
Ar ôl edrych ar amrywiaeth o wahanol gyflenwyr a gofyn iddynt ddangos beth oedden nhw’n gallu ei gynnig, roedd y Cyngor wedi dewis Bromcom, a hynny am eu bod yn gwmni arloesol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod eu systemau’n ddiogel, ac yn diogelu’r sawl sy’n eu defnyddio. Roedd seiberddiogelwch yn un o brif flaenoriaethau Cyngor Abertawe, a dyna pam fod Bromcom wedi sefyll allan yn y broses ddethol. Mae ganddynt fesurau diogelwch cadarn mewn lle, a hanes yn y maes diogelu plant ac o sicrhau fod anghenion y gymuned ysgol gyfan yn cael eu diwallu.
Partneriaeth a Gweledigaeth
- Dywedodd, Robert Smith, Aelod o’r Cabinet Addysg a Dysgu yng Nghyngor Abertawe:
“Rydym ni’n falch iawn o’r berthynas rydym ni’n ei ffurfio â Bromcom i ddarparu datrysiadau diogel yn y cwmwl ar gyfer holl ysgolion Abertawe. Mae’r prosiect yn gam beiddgar ymlaen, ac yn ehangu’r ffordd rydym ni’n rheoli data addysgol ac yn cyfathrebu â chymunedau’r ysgolion. Bydd datrysiadau arloesol Bromcom yn ein helpu ni i gyflawni ein gweledigaeth, sef moderneiddio systemau gweithredu ysgolion er mwyn gwella profiad staff a myfyrwyr.”
Partneriaeth sy’n edrych tua’r dyfodol
Dywedodd Ali Guryel, Rheolwr Gyfarwyddwr Bromcom Computers:
“Mae’n destun balchder mawr i ni fod Abertawe wedi dewis Bromcom i’w helpu i drawsnewid profiad addysgol yr ardal. O’r cychwyn cyntaf, rydym ni wedi gweithio’n agos â’r Cyngor er mwyn dod i ddeall eu hanghenion yn well, ac rydym ni’n edrych ymlaen at gael rhoi ein datrysiadau integredig ar waith yn yr ysgolion. Rydym ni’n rhoi pwyslais ar arloesi, diogelwch ac integreiddio di-dor felly rydym ni’n bartner perffaith i helpu Abertawe i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer addysg.”
Gwybodaeth am Bromcom
Mae cynhyrchion Cyllid, Gweledigaeth a System Gwybodaeth Reoli yn y cwmwl Bromcom yn gwasanaethu dros 4,000 o ysgolion a dwy filiwn o ddefnyddwyr ledled y DU ac Ewrop. Mae ein gwasanaethau wedi eu creu ar sail greddf ac maent yn cael eu harwain gan ddata. Rydym yn integreiddio systemau gweinyddu, cyfathrebu a dadansoddeg er mwyn rhoi profiad syml sy’n hawdd ei ddefnyddio i ysgolion, myfyrwyr a rhieni.
Mae Bromcom wedi hen sefydlu ei hun yng Nghymru, ac maent yn cefnogi ysgolion gyda’u systemau e-gofrestru ers dros ddau ddegawd. Mae ein datrysiad yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, ac wedi ei greu gennym ni, sy’n golygu nad oes angen unrhyw ategion ychwanegol arnoch chi. Mae hyn yn sicrhau y bydd y broses drawsnewid yn syml ac yn darparu nodweddion gwell.
Mae Abertawe yn ymuno â Wrecsam, Rhondda Cynon Taf, a Cheredigion, sydd i gyd eisoes wedi dewis Bromcom i gefnogi gwaith trawsnewid digidol yn eu hysgolion. Mae hyn yn atgyfnerthu ein henw da fel partner y gellir ymddiried ynddynt ar gyfer gwasanaethau technoleg addysg yng Nghymru.
Ymholiadau: Heidi.riley@bromcom.com