Resource Hub News/PR

Wrexham County Borough Council selects Bromcom cloud MIS for 71 schools to transform data management and communications

Wrexham County Borough Council selects Bromcom cloud MIS for 71 schools to transform data management and communications

/ Bromcom

English

Wrexham County Borough Council has selected management information system (MIS) and Finance provider Bromcom Computers to roll out its cloud MIS to all 71 schools in the region.

The previous system, still used across almost all of Wales, has been in place for more than 30 years. Having won the contract for supplying MIS for 1,100 schools in Northern Ireland, this opportunity to serve schools in Wales puts Bromcom in a unique position in the broader UK market landscape.

Wrexham’s 71 schools will move to Bromcom’s MIS by Spring term 2025. Five pilot schools are already engaged in the partnership and will go live by the end of September this year. The remaining 66 schools will begin their implementation towards the end of the Autumn term.

The pilot school programme will help the local authority to complete the migration process at a smaller scale initially and allow the remaining schools to make the switch seamlessly in the following months.

Bromcom MIS provides a powerful suite of administration, analysis and communication tools in one intuitive interface. It includes a parent portal, clubs/trips management and student/parent/teacher apps.

Parents and students will be able to use the app and portals in both English and Welsh, a function that was important to Wrexham, and is a first for Welsh MIS.

Richard Hatwood, Headteacher at Ysgol yr Holl Saint – All Saints’ School, one of the Council’s pilot schools, said: “With Bromcom, we’ll be able to do more with less work. Not only does the MIS system enable us to do what we need to do today, but its flexible and adaptable functionality means that it will be able to cater to our requirements in the future too.

"Bromcom’s look and feel is very user friendly, which is really important to us. Changing MIS is significant to any school, so having a system that is so easy to use, as well as highly functional will reassure our staff and parents and support in a smooth transition."

Ali Guryel, Managing Director of Bromcom Computers, added: “We are thrilled to partner with our first ever Welsh local authority, Wrexham. We’re excited to be working shoulder to shoulder to roll out our cloud MIS to 71 schools.

“Our commitment to excellence means that we will continually refine and improve our software based on feedback from our Welsh schools, and we are dedicated to making our platform available in Welsh as an option for all Welsh local authorities, schools and families.”

 

About Bromcom

Bromcom’s cloud-based MIS, Finance and Vision products serve over 4,000 schools and two million users across the UK and Europe. From students and families to staff and stakeholders, Bromcom provides helpful tools for everyone.

Bromcom has a long-standing partnership with Wales, where its eRegistration devices have been used across the country since the 1990s. Since launching its Cloud MIS solution in 2011, Bromcom has helped thousands of schools across the UK to take control of their data.

Bromcom was also appointed to provide MIS across the whole of Northern Ireland earlier this year.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dewis MIS yn y cwmwl Bromcom ar gyfer 71 o ysgolion i drawsnewid y gwaith o gyfathrebu a rheoli data

Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dewis y darparwr Cyllid a system gwybodaeth reoli (MIS) Bromcom Computers i gyflwyno ei MIS yn y cwmwl i bob un o’r 71 o ysgolion yn y rhanbarth.

Mae’r system flaenorol, sy’n dal i gael ei defnyddio ym mhob rhan o Gymru bron, wedi bod ar waith ers dros 30 o flynyddoedd. Ar ôl ennill y contract i gyflenwi MIS ar gyfer 1,100 o ysgolion yng Ngogledd Iwerddon, mae’r cyfle hwn i wasanaethu ysgolion yng Nghymru yn rhoi Bromcom mewn sefyllfa unigryw yng nghyd-destun marchnad ehangach y DU.

Bydd 71 o ysgolion Wrecsam yn symud i MIS Bromcom erbyn tymor y gwanwyn 2025. Mae pum ysgol beilot eisoes yn rhan o’r bartneriaeth a bydd y system yn weithredol erbyn diwedd mis Medi eleni. Bydd y 66 ysgol arall yn dechrau rhoi’r system ar waith tua diwedd tymor yr hydref.

Bydd yr ysgolion sy’n rhan o’r rhaglen beilot yn helpu’r awdurdod lleol i gwblhau’r broses mudo ar raddfa lai i ddechrau ac yn caniatáu i’r ysgolion eraill symud yn ddi-dor yn y misoedd nesaf.

Mae MIS Bromcom yn darparu cyfres bwerus o adnoddau gweinyddu, dadansoddi a chyfathrebu mewn un rhyngwyneb greddfol. Mae’n cynnwys porth rhieni, swyddogaeth rheoli clybiau/tripiau ac apiau myfyrwyr/rhieni/athrawon.

Bydd rhieni a myfyrwyr yn gallu defnyddio’r ap a’r pyrth yn Gymraeg ac yn Saesneg, swyddogaeth a oedd yn bwysig i Wrecsam – y tro cyntaf i system o’r fath fod ar gael yn ddwyieithog yng Nghymru.

Dywedodd Richard Hatwood, Pennaeth Ysgol yr Holl Saint – All Saints’ School, un o ysgolion peilot y Cyngor: “Gyda Bromcom, byddwn yn gallu gwneud mwy gyda llai o waith. Mae’r system MIS nid yn unig yn ein galluogi i wneud yr hyn y mae angen i ni ei wneud heddiw, ond mae ei swyddogaeth hyblyg ac addasadwy yn golygu y bydd yn gallu bodloni ein gofynion yn y dyfodol hefyd.

"“Mae system Bromcom yn edrych ac yn teimlo’n hawdd iawn ei defnyddio, sy’n bwysig iawn i ni. Mae newid MIS yn arwyddocaol i unrhyw ysgol, felly bydd cael system swyddogaethol iawn, sydd mor hawdd ei defnyddio yn tawelu meddyliau ein staff a’n rhieni ac yn cefnogi’r broses o bontio’n ddidrafferth.”"

Ychwanegodd Ali Guryel, Rheolwr Gyfarwyddwr Bromcom Computers: “Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Wrecsam, ein hawdurdod lleol cyntaf erioed yng Nghymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr i gyflwyno ein System Gwybodaeth Reoli yn y cwmwl i 71 o ysgolion.

“Mae ein hymrwymiad i ragoriaeth yn golygu y byddwn yn mireinio ac yn gwella ein meddalwedd yn barhaus ar sail adborth gan ein hysgolion yng Nghymru, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein llwyfan ar gael yn Gymraeg fel opsiwn i bob awdurdod lleol, ysgol a theulu yng Nghymru.”

 

Gwybodaeth am Bromcom

Mae cynhyrchion Cyllid, Gweledigaeth ac MIS yn y cwmwl Bromcom yn gwasanaethu dros 4,000 o ysgolion a dwy filiwn o ddefnyddwyr ledled y DU ac Ewrop. O fyfyrwyr a theuluoedd i staff a rhanddeiliaid, mae Bromcom yn darparu adnoddau defnyddiol i bawb.

Mae gan Bromcom bartneriaeth hirsefydlog â Chymru – mae ei ddyfeisiau e-gofrestru wedi bod yn cael eu defnyddio ym mhob cwr o’r wlad ers y 1990au. Ers lansio ei ateb MIS yn y cwmwl yn 2011, mae Bromcom wedi helpu miloedd o ysgolion ledled y DU i gymryd rheolaeth dros eu data.

Penodwyd Bromcom hefyd i ddarparu MIS ledled Gogledd Iwerddon yn gynharach eleni.